Seminar
Stad yr Ystad - State of the Estate
Ymarfer Celf Penodol i Safle mewn Cyd-destun Gwledig
Dydd Iau 15 Hydref, 2pm - 5.30pm yn y Stablau ym Mhenpont
Yn y seminar hwn, bydd artistiaid Stad yr Ystad – State of the Estate yn trafod eu gwaith mewn perthynas â’r ffordd maent wedi ymateb i leoliad a themâu’r arddangosfa. Byddant hefyd yn trafod yr effaith mae gweithio’n benodol i safle’n ei chael ar eu harfer celf, gan gyfeirio’n arbennig at weithio mewn cyd-destun gwledig.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Stefhan Caddick, John Howes, Rebecca Spooner a Helen Sear.
Mynediad
Mae’n rhad ac am ddim mynychu’r seminar (mynediad i’r arddangosfa £4).
I archebu lle, cysylltwch â Vina Hogg
ffôn: 01874 636202
e-bost: penpont@btconnect.com






