Gweithdai
windfall cider apple drawing 100ft x 80ft, 2008
aerial photograph windfall cider apple drawing, 2008
Lluniadau o’r Clawdd gyda Kate Raggett
Dydd Sul 12 Hydref 10am – 12 canol dydd, 1pm – 3pm
Dydd Sadwrn 17 Hydref 10am – 12 canol dydd, 1pm – 3pm
Dewch i wneud llun ar raddfa fawr gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o erddi a thir Penpont. Nid oes unrhyw dâl ychwanegol am y gweithdai hyn y tu hwnt i’r £4 am fynediad i’r arddangosfa (mae’n rhad ac am ddim i blant). Mae croeso i bob oedran, dewch â’ch esgidiau glaw!
Ysgolion
Gwahoddir grwpiau Blynyddoedd Cynnar, ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i ddod i weld yr arddangosfa. Bydd sesiwn weithdy fer, a arweinir gan artist, yn cael ei chynnwys yn rhan o’u hymweliad er mwyn cryfhau, ysbrydoli ac ysgogi eu sgiliau creadigol eu hunain a gwneud y profiad yn fwy cofiadwy a chyffrous. Nid oes unrhyw dâl am y gweithdai hyn.
Colegau
Bydd rhai o’r artistiaid sy’n cyfranogi ar gael drwy gydol yr arddangosfa i siarad am eu gwaith, egluro eu prosesau ac ateb cwestiynau gan fyfyrwyr. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i grwpiau coleg.
I archebu lle, cysylltwch â Vina Hogg
ffôn: 01874 636202
e-bost: penpont@btconnect.com






