DSC_0409_1.jpg

054_1.jpg

DSC_0452_1.jpg

Summer_2011_047_1.jpg

DSCN1322_1.jpg

DSC_0481_1.jpg

Festivals_2008_162_1.jpg

DSCN1328_1.jpg

Garden_2007_151_2.jpg

Garden_2009_119_1.jpg

Kerala_India_2010_347_1.jpg

Kerala_India_2010_534_1.jpg

Garden_2007_163_1.jpg

Moroccan_Road_trip_New_Year_2010_290_1.jpg

Moroccan_Road_trip_New_Year_2010_294_1.jpg

morroco_2007_025_1.jpg

morroco_2007_042_1.jpg

Summer_2011_042_1.jpg

Festival of Colour in English

Gwyl o liw

Mae’n bleser gan Penpont, ar y cyd â The Great English Outdoors, gyflwyno eu Ffair Tecstilau a Gerddi gyntaf. Dyma ŵyl a fydd yn cyfuno harddwch hydrefol yr ardd a lliwiau cyfoethog tecstilau.

Bydd nifer o stondinau tecstilau yn y Stablau yn gwerthu defnyddiau a dillad o bob lliw a llun o bedwar ban byd, ynghyd â stondinau’n gwerthu gemwaith, llyfrau, planhigion a basgedi.

Y STONDINWYR. 

JOHN GILLOW: Treuliodd John y 35 mlynedd diwethaf yn crwydro Asia ac Affrica yn casglu enghreifftiau trawiadol o frodwaith a gwaith gwehyddu. Bydd y rhain ar werth, ynghyd â’i lyfrau arloesol ar decstilau o wahanol wledydd. Os hoffech wybod mwy am John, cliciwch yma

ANANUCA: Mae Ananuca yn arbenigo mewn hyrwyddo crefftau gorau Chile. Mae ein rygiau, blancedi, carthenni a sgarffiau’n cael eu gwehyddu â llaw o wlân pur defaid wedi’i nyddu â llaw. Maent yn rhai swmpus a’u patrymau’n rhai cynnil, bytholwyrdd. Mae iddynt liwiau cyfoethog, y rhan fwyaf yn lliwiau naturiol a geir o blanhigion, ac maent yn adlewyrchu lliwiau amrywiol y tymor a’r tirwedd y crewyd hwy ynddynt. Gwnaed yr holl nwyddau â llaw gan ddefnyddio technegau traddodiadol ac rydym yn dilyn egwyddorion masnach deg: ein nod yw meithrin perthynas hirdymor â’n crefftwyr, gan barchu eu dawn a’r angen i wneud bywoliaeth urddasol.'

ATHENE ENGLISH:  Cafodd Athene ei hyfforddi’n gyfrwywr yn Llundain ond erbyn hyn hi yw perchennog The Great English Outdoors, siop hyfryd o grefftau hardd a diddorol yn y Gelli Gandryll, sy’n arbenigo mewn carthenni Cymreig, tecstilau o bedwar ban byd a nwyddau lledr. Hi gafodd y syniad am yr ŵyl arbennig hon ac mae’n un o’r partneriaid. Ewch i’w gwefan: www.greatenglish.co.uk

ELIZABETH GIBBONS: Mae gan Elizabeth decstilau antique o lu o wahanol wledydd, yn cynnwys darluniau, rygiau a darnau bychan anghyffredin. Mae hefyd yn casglu brodwaith lês Seisnig ac Ewropeaidd, printiau ffasiwn, botymau, ategolion ac ati. Bu’n dysgu yn The Royal School of Needlework, ac yn darlithio yn y Coleg Americanaidd yn Llundain i fyfyrwyr ffasiwn a dylunio cartrefi.

OLIVIA DELL : Tecstilau lliwgar trawiadol ar gyfer eich calon a’ch cartref, cotiau silc ikat a sioliau silc o Uzbekistan, ynghyd â chlustogau a charthenni hardd i roi lliw i’ch cartref. Cewch wybod rhagor yn www.oliviadellworldtextiles.com 

INGRID WAGNER : Tecstilau cyfoes ar gyfer y cartref, yn cynnwys eitemau gwau bras. Cewch gomisiynu darn, prynu eitem barod neu wneud eich darn eich hunan. Mae Ingrid wedi torri’r record byd am wau â’r gweill mwyaf erioed, hyd at 1.2m. Dewch draw. Mae ei chynllun ‘Real World Journeys’ yn eich cipio ar daith wehyddu i Moroco. Yn y ffair, bydd Ingrid yn sôn am nwyddau wedi’u gwehyddu ym Moroco ac yn rhoi cipolwg ar ei bywyd diddorol. www.ingridwagner.com

KILIM COMPANY : Dyma gwmni sy’n arbenigo mewn rygiau a Kilims wedi’u gwneud â llaw yn Nhwrci, ynghyd â nwyddau addurnol Kilim a bagiau llaw Kilim. Cewch weld detholiad yn www.kilimcompany.co.uk

CALANADURRA: Busnes teuluol yw Calanadurra ac mae’n mewnforio ac yn gwerthu tecstilau masnach deg. Rydym yn arbenigo mewn tecstilau silc hardd o Laos ac alpaca o Beriw, gyda phwyslais ar liwiau a thechnegau lliwio naturiol. Mae Robyn yn gwau ac yn dylunio tecstilau. Yn ogystal â chynhyrchu ei heitemau ei hunan, mae pobl yn gwau ei chynlluniau yn yr Andes. Cewch wybod rhagor os ewch i www.calanadurra.co.uk

BARBIE CAMPBELL COLE: Gemwaith o waith llwythau o bobl o bedwar ban byd, dillad soffistigedig a thecstilau o wahanol wledydd ar gyfer eich cartref. wwwbarbiecampbellcole.com  

ROS PRICE JONES: Rwy’n dylunio ac yn gwneud gemwaith yn fy ngweithdy wrth droed y Mynydd Du, gan ddefnyddio cerrig lled-werthfawr, gwydr Tsiec ac arian ac mae gen i lampau wedi’u gwneud gan artistiaid gwydr o Brydain. Clustogau lliwgar bach a mawr i weddu i’ch cartref chi. Cardiau â ffotograffau o olygfeydd yng Nghymru a chardiau Nadolig wedi’u printio â llaw'.                www.rospricejonesdesignerjewellery.co.uk

CHROME YELLOW BOOKS : Mae Chrome Yellow Books yn enwog am eu detholiad arbenigol o gyhoeddiadau am gelf a chrefft. Bu ganddynt stondin mewn nifer o arddangosfeydd crefftau o bwys yn cynnwys Origin, Art in Action, a Gŵyl Decstilau Ryngwladol Stroud. Bydd ganddynt ddetholiad cyffrous yn Ffair Decstilau Penpont gyda rhywbeth at ddant pawb. Dewch draw! Ceir rhagor o fanylion yn: http://chromeyellowbooks.com/

SGYRSIAU A GWEITHDAI

Bwriadwn gynnal rhaglen o sgyrsiau dros y penwythnos. Byddwn yn croesawu John Gillow, arbenigwr byd-eang ar decstilau ac awdur nifer o lyfrau awdurdodol ar y pwnc ac Athene English, arbenigwraig ar garthenni Cymreig a pherchennog The Great English Outdoors. Bydd Ingrid Wagner, sy’n adnabyddus am gynnal gweithdai gwau bras yn sôn am decstilau Moroco a’i theithiau yng Ngogledd Affrica a bydd Robert MacDonald yn siarad am ei waith fel artist.

Dros y penwythnos bydd arddangosiadau a gweithdai i oedolion a phlant.  Bydd Ingrid Wagner yn cynnal gweithdy gwau, gweler www.ingridwagner.com/ a chewch ymuno â Patricia Digby, prif diwtor yn adran gelfyddyd Ruskin Mill, Stroud, mewn gweithdy blocbrintio.

Ar y dydd Sul, cawn gwmni Kate Raggett, artist tir o fri, a fydd yn arwain gweithdy celf gan ddefnyddio pethau naturiol sy’n eich ysbrydoli o’r gerddi. Cofiwch ddod â chamera i dynnu llun eich campwaith. Gweler http://www.kateraggett.com/

Urdd Nyddwyr, Gwehyddion a Lliwyddion Brycheiniog: mae aelodau’r grŵp wrth eu bodd yn trin gwlân ac edafedd ac yn croesawu aelodau newydd i’w cyfarfod yn Neuadd Subud, Aberhonddu, bob dau fis.

 

RHAGLEN Y PENWYTHNOS

Sadwrn 22 Hydref 2011

10.00 - 11.00 FFILM... 
Andy Goldsworthy - River and Tides

11.15 - 12.15 SGWRS...
Ingrid Wagner - 'Moroccan Textiles'

13.00 - 14.00 FFILM...   
BBC Horizon - Do You See What I See?
Dr Beau Lotto

14.15 - 15.15 SGWRS...
John Gillow - 'World Textiles'

15.30 - 16.30 SGWRS...   
Athene English - 'Welsh Blankets'

16.45 - ymlaen FFILM... 
Mary Lance - Blue Alchemy Stories of Indigo

Gweithdai/Arddangosiadau

Bydd gweithdai ac arddangosiadau trwy’r dydd gan:-

Ingrid Wagner

Mick Petts

Amanda Rayner

Patricia Digby

 

Sul 23 Hydref 2011

10.00 - 11.00 FFILM...
BBC Horizon - Do You See What I See?    Dr Beau Lotto

11.15 - 12.15 SGWRS...
Robert Macdonald - 'My Approach to Colour'

12.30 - 14.00 FFILM...
Mary Lance - Blue Alchemy Stories of Indigo

14.15 - 15.15 SGWRS...
John Gillow - 'World Textiles'

15.30 - 16.30 SGWRS... 
Athene English - 'Welsh Blankets'

16.45 - ymlaen FFILM...
The Gabbeth - Director:- Mohsen Malhmalbaf

Gweithdai/Arddangosiadau

Bydd gweithdai ac arddangosiadau trwy’r dydd gan:-

Ingrid Wagner

Mick Petts

Kate Raggett

Amanda Rayner

Patricia Digby

 

Y GERDDI

Bydd y coed aeddfed, hardd yng ngerddi Penpont ar lan afon Wysg yn llawn gogoniant lliwiau’r hydref yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd croeso i ymwelwyr grwydro’r gerddi gan fwynhau’r ddrysfa, y llwyni addurnol a gerddi muriog y gegin. Bydd James Clapp, prif dyfwr Penpont Organic, wrth law trwy gydol y penwythnos i ateb cwestiynau am arddio organig a thyfu llysiau a ffrwythau. Bydd cynnyrch y tymor ar werth yn siop Gardd y Gegin, yn cynnwys enghreifftiau ardderchog o gowrdiau a phwmpenni.

Caiff baneri hardd gan Shona Watt eu codi’n arbennig ar gyfer yr ŵyl. Mae Shona wedi arddangos ei gwaith ym mhedwar ban byd a gwelir ei baneri mewn nifer o wyliau cerddoriaeth a chelfyddyd o bwys ym Mhrydain. 

Un arall a fydd yn gweithio yn yr ardd dros y penwythnos yw Mick Petts. Artist tir yw Mick ac mae wedi creu llawer o ddarnau celfyddyd gwych mewn llefydd trawiadol ledled Prydain. Yn ystod yr ŵyl, bydd yn gweithio ar brosiect newydd yn y gerddi a byddai’n falch o gael help gan wirfoddolwyr. Cewch weld rhagor o’i waith yn www.globalimpacts.net/

Mae Rosie Bose o Feithrinfa Blanhigion Glendon yn Swydd Northampton yn enwog am ei gwaith gyda phlanhigion. Bydd yn dod â nifer o wahanol blanhigion lluosflwydd i Gymru am y tro cyntaf. Mae’n mynd i lawer o arwerthiannau planhigion prin ledled Prydain ac yn arbenigo mewn planhigion Crafanc yr Arth (Hellebore) a Llaethlys (Euphorbia). 

Bydd Amanda Rayner o Wyldwood Willow yn arddangos y basgedi hardd y mae’n eu gwneud â llaw o goed helyg lleol a defnyddiau o’r cloddiau. Yn ogystal, mae Amanda yn cynnig gweithdai gwneud basgedi. SYLWCH: codir tâl bychan am y gweithdai hyn er mwyn talu am y defnyddiau.

ARDDANGOSFA GELF

Bydd arddangosfa o waith newydd gan ‘Artistiaid Penpont’, hefyd, yn cynnwys Robert MacdonaldTessa Waite a Morag Colquhoun. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o fis Fforwm Celf Powys. Cewch wybod rhagor am ddigwyddiadau yn y sir ar  wefan Fforwm Celf Powys. Hon fydd trydedd arddangosfa Artistiaid Penpont ym Mhenpont. Roedd y sioe ddiwethaf, yn 2009, yn un llwyddiannus iawn o’r enw Stad yr Ystad.

BWYD A DIOD

Bydd cinio a the ar gael trwy’r dydd, wedi’u paratoi yng ngheginau’r Stabl gan ddefnyddio cynnyrch organig a dyfwyd yng ngerddi muriog Fictoraidd y Stad.

Byddwn hefyd yn cynnig cwrw da wedi’i fragu gan fragdy’r Waen yng nghanolbarth Cymru, gweler www.thewaenbrewery.co.uk. Mae’r Bragdy’n cynhyrchuu cwrw newydd yn arbennig ar gyfer yr Wyl, a lansiwyd cystadleuaeth i ganfod enw wedi’i ysbrydoli gan decstilau ar ei gyfer. Gallwch fynd i wefan bragdy’r Waen a thrydar enw iddynt.

Bydd siop y fferm yn gwerthu ffrwythau, llysiau a phlanhigion organig o’r gerddi muriog.

MYNEDIAD

Pris mynediad i’r Wyl yw £4.00 yr un, y dydd, i oedolion. Plant o dan 16 AM DDIM. 

Oriau Agor: Dydd Sadwrn 22 Hydref a dydd Sul 23ain - 10.00am - 6.00pm.

Dim ond i’r gerddi y mae cŵn yn cael dod. Dylech eu cadw ar dennyn. Mae cŵn tywys yn cael mynd i’r adeiladau.

Dewch ag arian neu sieciau. Ni fydd modd defnyddio cardiau credyd. Mae’r peiriant arian agosaf yng Ngorsaf Betrol Total yn Aberhonddu.

Gellir mynd at yr afon ac at byllau dŵr yn y gerddi. Gofynnwn i rieni gadw golwg ar eu plant trwy’r amser.

HYGYRCHEDD

Gall pobl anabl fynd i bob man yn yr adeiladau. Mae modd mynd i lawr cyntaf y Stablau ar lifft risiau y tu allan. Nid ydym yn gallu rhoi sgwteri trydan trwm ar y lifft.                

Gellir mynd i’r rhan fwyaf o lefydd yn yr ardd ar hyd y llwybrau. SYLWCH: Mae peth o’r tir yn anwastad a gall fod yn llithrig os yw’n wlyb. Dylech wisgo esgidiau addas. 

Ceir toiledau i bobl anabl yn y Stablau.

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL

SUT I GYRRAEDD PENPONT: Mae Penpont yn blasty 4.5 milltir i’r gorllewin o Aberhonddu, oddi ar briffordd yr A40. Bydd arwyddion a baneri ar y ffordd i ddangos y fynedfa a bydd arwyddion ffordd yn eich cyfeirio i’r safle. Ein cod post, rhag ofn bod gennych SAT NAV, yw LD3 8EU. Ceir awgrymiadau am sut i gyrraedd ar ein prif wefan yma.

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Gan ein bod mewn ardal wledig, nid oes llawer o drafnidiaeth gyhoeddus. Dyma rai canllawiau i’ch helpu:

TRENAU: Yn y Fenni mae’r orsaf drenau agosaf. Os byddwch yn teithio ar y brif reilffordd rhwng Caerdydd a Llundain, byddwch yn newid yng Nghasnewydd a gallwch deithio o orsafoedd yr Amwythig a Henffordd i’r gogledd. Gallech ddal trên o Gaerdydd i Ferthyr Tudful hefyd. Ceir amserlenni a rhagor o wybodaeth gan Trenau Arriva neu www.nationalrail.co.uk

BYSUS: Cewch wybodaeth am wasanaethau bysus ym Mhowys a map manwl a chanllaw i’r amserlenni yn www.powysbus.info. Neu, os hoffech gynllunio taith gyfan ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i www.cymraeg.traveline-cymru.info 

I gyrraedd Penpont, mae angen dal bws sy’n rhedeg rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri a gofyn i’r gyrrwr stopio wrth fynedfa Penpont gan nad yw’n arosfan swyddogol.

CEIR: Bydd lle i barcio mewn cae ger y brif lawnt. Gobeithio na fydd y tir yn rhy wlyb. Os oes gennych 4x4, efallai y byddai’n werth dod ag ef. Ceisiwch rannu car os oes modd. Bydd arwyddion Parcio i Bobl Anabl wrth y fynedfa a bydd stiwardiaid wrth law i’ch cyfeirio.

BEICS: Rydym yn ceisio annog pobl i seiclo yma. Os byddwch yn dewis seiclo, fe gewch docyn i gael diod am ddim yn y caffi. Ceisiwch ddod ar hyd heolydd bach gan y byddant yn fwy diogel na’r A40. Rydym o fewn rhai milltiroedd i Lwybr Taf, y llwybr seiclo rhwng Caerdydd ac Aberhonddu. Cewch wybod mwy ar wefan Sustrans.

TACSI: Os byddwch yn sownd yn Aberhonddu, mae’r safle Tacsis yng nghanol y dref ger Eglwys y Santes Fair. Dyma rifau rhai cwmnïau tacsis:  Brecon Taxi: 01874 623444,  A&A. 01874 622288,  Taxi Taxi 01874 625522

LLETY

Mae dewis da o lety yn yr ardal. Beth am aros am wythnos gyfan? Mae llawer i’w wneud a’i weld. Dyma rai gwefannau i’ch helpu i benderfynu lle i aros:

Brecon Beacons Tourism

Brecon Beacons Holiday Cottages

Felin Fach Griffin

The Gliffaes Hotel

Mae’n werth ymweld â gwefan Croeso Cymru a gwefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Hoffem ddiolch i Gronfa Datblygu Cynaliadwy Powys am eu help i’n galluogi i gynnal yr Wyl hon. 

Return to top

Website design by Orphans